Acts 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oeddent yn ei adnabot, may ef e yt oedd yr hwn oedd yn eistedd y ’ovyn eleesen wrth borth Prydverth y Templ: a ryveddy a sanny a wnaethant wrth y peth, a ddar vesei iddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac adnabyddent ef, mai efe oedd yr hwn a eisteddai, am elusen, wrth borth Prydferth y deml; a llanwyd hwy o syndod a dychryn am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac adwaenent ef mai hwn oedd yr un a eisteddai i elusena wrth Borth Prydferth y Deml, a llannwyd hwynt â braw a syndod am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yr oeddent hwy yn ei adnabod ef, mai efe oedd yr hwn oedd yn eistedd am elusen wrth y Prydferth, Porth y Deml; a hwy a lanwyd â syfrdandod a syndod am yr hyn oedd wedi dygwydd iddo.