Acts 3:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd yr efrydd yr hwn a iachesit, yn attal Petr ac Ioan, y rhedawdd yr oll popul yn sannedic attwynt ir porth, y elwit porth Selef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, attynt y cyd-redodd yr holl bobl yn y cyntor a elwir Cyntor Shalomon, mewn syndod mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thra oedd ef yn dal ei afael ym Mhedr ac Ioan rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i’r fan a elwir Colofnfa Solomon, yn frawychedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i'r porth a elwir Porth Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, yr holl bobl a gyd‐redasant atynt i'r Cyntedd a elwir Cyntedd Solomon, wedi eu syfrdanu.