Acts 3:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd Petr hyn, ydd atebawdd wrth y popul, Ha wyr yr Israel ieit, paam ydd ych yn rryueddu wrth hynn? neu paam ydd ych yn hylltremio arnam ni, mal pe o’n meddiant ein hunain n ’ai o’n dwywolder y gwnaethē ir gvvr hwn gerddet?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr, gan weled hyn, a attebodd i’r bobl, Gwŷr Israel, paham y rhyfeddwch wrth hyn, neu arnom ni y craffwch, fel pe bai trwy ein gallu neu ein duwioldeb ni ein hunain y gwnaethom i hwn rodio?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd Pedr, atebodd i’r bobl, “Wŷr Israel, paham y rhyfeddwch at hyn? A phaham y syllwch arnom ni fel pe trwy ein nerth ni ein hunain neu’n duwioldeb y gwnaethem iddo gerdded?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd Pedr hyn, fe anerchodd y bobl: "Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr yn gweled hyn, a atebodd i'r bobl, O wyr o Israeliaid, paham y rhyfeddwch at y dyn hwn? neu paham yr edrychwch yn graff arnom ni, fel pe trwy ein gallu neu ein duwioldeb ein hunain yr ydym wedi gwneyd i hwn i rodio?