Acts 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ y Enw a iachaodd ef y gvvr hwn, yr vn a welwch ac ’adwaenwch, trwy ffydd yn y Enw ef: a’r ffydd ys y trwyddaw ef, a roddes yr iachawrwydd hwn yn eich gwydd chwi oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrwy ffydd yn Ei enw Ef, yr hwn a welwch ac a adnabyddwch, Ei enw Ef a’i cadarnhaodd; ac y ffydd y sydd Trwyddo Ef, a roddes i hwn yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrwy ffydd yn ei enw ef y cadarnhawyd, drwy ei enw, hwnyma, a welwch ac a adwaenoch, a’r ffydd sydd drwyddo ef a roddes iddo lwyr wellhâd fel hyn yn eich gwydd chwi oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gu373?ydd chwi i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar sail y ffydd yn ei Enw ef y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo ef a roddodd iddo yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.