Acts 3:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rryw wr yr hwn oedd yn efrydd o groth ei vam, a ddugit, yr vn a ðodent beunydd wrth porth y Tēpl, y elwit y porth Prydverth, y’ofyn eleesen dot gan yr ei y elent y mewn ir Tem p l.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac rhyw ddyn, cloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a aent i mewn i’r deml.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yr oeddid yn dwyn rhyw ŵr, a oedd gloff o groth ei fam, yr hwn a osodent beunydd wrth ddôr y Deml, a elwid Prydferth, i geisio elusen gan y rhai a gyrchai i’r Deml;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd rhywrai'n dod dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid Y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw wr yr hwn oedd gloff o groth ei fam oedd yn cael ei ddwyn, yr hwn a arferent osod bob dydd wrth Borth y Deml, yr hwn a gyfenwid, Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai oeddynt yn myned i mewn i'r Deml;