Acts 3:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr vn vydd dir ir nef ei dderbyn, yd yr amser yr adverer yr oll bethae, ry ddywesei Dew trwy enae ei oll sainct Prophwyti er yn oes oesoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Iesu, yr Hwn y mae rhaid i’r nef Ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau a lefarodd Duw trwy enau Ei brophwydi sanctaidd erioed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn y mae’n rhaid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai y llefarodd Duw amdanynt drwy enau ei broffwydi santaidd erioed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr hwn y mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau y llefarodd Duw am danynt trwy enau ei brophwydi sanctaidd erioed.