Acts 3:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Moysen a ddyvot wrth y tadae, Yr Arglwydd eich Dew a gyvyd y chwy Prophwyt, ys ef oeich broder eich vnain yn gyffelyp i mi: ys gwrandewch arnaw ym‐pop peth bynac, a ddyweto wrthych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mosheh yn wir a ddywedodd, “Prophwyd i chwi a gyfyd Iehofah Duw o’ch brodyr, fel myfi. Arno Ef y gwrandewch, yn yr holl bethau, cynnifer ag a lefara Efe wrthych;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Moesen yn un a ddywedodd, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr, megis myfi; ef a wrandewch ym mhob peth a lefaro wrthych.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses, 'Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel fi. Arno ef yr ydych i wrando ym mhob peth a lefara wrthych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Moses a ddywedodd, Yr Arglwydd Dduw a gyfyd i chwi brophwyd o blith eich brodyr, fel myfi; arno ef y gwrandewch yn yr holl bethau a lefaro wrthych.