Acts 4:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mal ydd oeddent wy yn llavaru wrth y popul, y bu ir Archoffeiriat, a llywyð y Templ, a’r Sadduceit ddyvot am ei pennae,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy yn llefaru wrth y bobl daeth arnynt yr offeiriaid, a chadben y deml,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hwy’n llefaru wrth y bobl daeth yr archoffeiriaid a phennaeth y Deml a’r Sadwceaid arnynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a'r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi'n siarad â'r bobl dyma'r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu'r deml a rhai o'r Sadwceaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent yn llefaru wrth y bobl, daeth yr offeiriaid a phrif swyddog gwarchodlu'r deml a'r Sadwceaid ar eu gwarthaf,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a Chadben y Deml, a'r Saduceaid, a ddaethant arnynt hwy,