Acts 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
bit wybodedit ychwy oll, ac i oll bopul yr Israel may trwy Enw Iesu Christ o Nazaret, yr vn a groceso‐chwi, yr vn a ad gyvodes Dew i vyny dd o veirw, ys trwy ddaw ef y saif y dyn hwn geyr eich bron chwi yma yn iach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Natsaread; yr Hwn, chwi a’i croes-hoeliasoch; yr Hwn, Duw a’i cyfododd o feirw, Trwyddo Ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
bydded hysbys i chwi oll ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist y Nasaread, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y saif hwn ger eich bron yn iach.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu y dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
bydded hyspys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Nazaread, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yn Hwn y mae hwn yn sefyll yn eich gwydd chwi yn iach.