Acts 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welsant hyder Petr ac Ioan yn amadrodd a’ deall y bot wy yn anllytherenawc ac eb ddysc ganthwynt, rhyveðy a wnaethant, a’ ei adnabot, pan yw ei bot hwy y gyd a’r Iesu:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweled hyfder Petr ac Ioan, a chanfod mai dynion anllythrennog oeddynt ac heb addysg, rhyfeddasant, a chymmerasant wybodaeth o honynt mai gyda’r Iesu y buasent,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth sylwi ar hyfder Pedr ac Ioan, ac wedi deall mai dynion anllythrennog a dinod oeddynt, rhyfeddent; adwaenent hwynt eu bod gyda’r Iesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a'u hadwaenent, eu bod hwy gyda'r Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd aelodau'r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw'n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu. Yr oeddent yn sylweddoli hefyd eu bod hwy wedi bod gydag Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy yn gweled hyfder Petr ac Ioan, ac wedi dal sylw mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, a ryfeddasant; a daethant i wybod iddynt fod gyda'r Iesu.