Acts 4:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac wrth welet hefyt y dyn a iachesit yn sefyll gyd ac wynt, ny allent ðywedyt dim yn erbyn y peth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan weled y dyn yn sefyll gyda hwynt, sef yr hwn a iachesid, nid oedd ganddynt ddim i wrth-ddywedyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a hwy’n gweled y dyn a iachawyd yn sefyll gyda hwynt ni allent wrthddwedyd ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o'u blaenau, doedd dim byd arall i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth weld y dyn oedd wedi ei iachu yn sefyll gyda hwy, nid oedd ganddynt ddim ateb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wrth weled y dyn oedd wedi ei iachâu yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i wrth‐ddywedyd.