Acts 4:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Pa beth a wnawn i’r dynion hynn? can ys y’n ddiau e wnaethpwyt arwydd eglur y canthwynt, ac y mae yn amlwc hyn y gā pawp ’sy yn preswilio yn‐Caerusalem ac ny allwn ni wady.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn i’r dynion hyn? canys yn wir bod arwydd hynod wedi ei wneuthur trwyddynt, i bawb sy’n trigo yn Ierwshalem y mae ’n amlwg,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Beth a wnawn i’r dynion hyn? canys amlwg yw i bawb sy’n preswylio yng Nghaersalem ddyfod trwyddynt hwy arwydd hysbys, ac ni allwn ei wadu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth wnawn ni â'r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Beth a wnawn," meddent, "'r dynion hyn? Oherwydd y mae'n amlwg i bawb sy'n preswylio yn Jerwsalem fod gwyrth hynod wedi digwydd trwyddynt hwy, ac ni allwn ni wadu hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth fedrwn ni wneyd i'r dynion hyn? Canys yn wir arwydd adnabyddus sydd wedi ei wneuthur trwyddynt hwy, amlwg i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerusalem; ac nis gallwn ei wadu.