Acts 4:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’i galw a wnaethāt, ac a ’orchymynesont yddynt na byðei yddynt ym‐moð yn y byd gympwyll na dyscu ’r bopul yn Enw ’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant iddynt beidio ag ynganu o gwbl na dysgu yn enw yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwasant hwynt, a’u gorchymyn nad ynganent o gwbl ac na ddysgent am enw’r Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o'u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant na thraethent ac na ddysgent ddim o gwbl yn enw yr Iesu.