Acts 4:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno wedy daroedd gyntaf ei gellwng ymaith, yd aethant at ei cyueillon, ac venagesont yr oll bethae’ry vesei ir Archoffeiriait a’r Henyðion ei ddywedyd wrthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu gollwng yn rhyddion, aethant at yr eiddynt, a mynegasant cynnifer o bethau y bu i’r archoffeiriaid a’r henuriaid eu dywedyd wrthynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi eu gollwng aethant at eu cyfeillion, a mynegasant y cyfan a ddywedodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai'r archoffeiriaid a'r henuriaid wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei fygwth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, wedi eu gollwng yn rhyddion, a aethant at yr eiddynt, ac a fynegasant pa pethau bynag a ddywedodd yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid wrthynt.