Acts 4:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ei clywsant vvy, derchafy ei llef ar Ddew a wnaethant yn vnvryd, a’ dywedyt, Arglwydd, ti yw ’r Dew r’y wnaeth ost nef a’ ddaiar, a’r mor a’ chymeint oll ys ydd ynthwynt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi clywed hyn, o un fryd a godasant eu llais at Dduw, a dywedasant, Arglwydd, Tydi, yr Hwn a wnaethost y nef a’r ddaear a’r môr ac oll y sydd ynddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, wedi clywed, codasant yn unfryd lef at Dduw, a dywedasant, “O Benarglwydd, tydi a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phob peth sydd ynddynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw'r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaear, a'r môr, ac oll sydd ynddynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw'n gweddïo gyda'i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy'n rheoli'r cwbl, a thi ydy'r Un sydd wedi creu yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: "O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r mr a phob peth sydd ynddynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, pan glywsant, yn unfryd a godasant eu llais at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, Tydi, yr hwn a wnaethost y nef a'r ddaear a'r môr, a'r oll sydd ynddynt: