Acts 4:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn trwy enae dy was Dauid a ddywedeist, Paam ydd ymgynddeiriogodd y Cenetloedd, ac y meddyliawdd y popul bethæ gweigion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn trwy enau ein tad Dafydd Dy was, trwy’r Yspryd Glân, a ddywedaist, “Paham y terfysgodd cenhedloedd, A phobloedd a fyfyriasant wegi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ti a ddywedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd, dy was, ein tad ni, Paham yr ymgynddeiriogodd y cenhedloedd, ac y dyfeisiodd y bobloedd bethau ofer?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn trwy'r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti ddwedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae'r cenhedloedd mor gynddeiriog, a'r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Gln yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: 'Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn, trwy yr Yspryd Glân, trwy enau ein Tâd Dafydd, dy was, a ddywedaist, Paham y ffromodd cenhedloedd, Ac y dyfeisiodd pobloedd bethau ofer?