Acts 4:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn wir yn erbyn dy sanct Vap Iesu, yr hwn a enneiniaist yð ymgymiullawdd Herod ac Pontius Pilatus y gyd a’r genetloedd a p h opul yr Israel,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys casglwyd mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn Dy Sanct Fab Iesu, yr Hwn a enneiniaist, Herod a Pontius Pilat,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was santaidd Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat ynghyd â’r cenhedloedd a phobloedd Israel,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda'r Cenhedloedd, a phobl Israel,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd 'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys casglwyd ynghyd, mewn gwirionedd, yn y Ddinas hon, yn erbyn dy sanctaidd Was Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat, gyda Chenhedloedd a phobloedd Israel,