Acts 4:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yðwynt weddiaw, y cyffroawdd y lle ydd oeddent wedy’r ymgynnull, ac y cyflawnwyt wy oll o’r Yspryt glan, ac wy a ymadroddesont ’air Dew yn hyderus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweddïo o honynt, siglwyd y fan lle yr oeddynt wedi eu casglu ynghyd, a llanwyd hwy oll o’r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ymbil, ysgydwyd y lle yr oeddynt wedi ymgasglu, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a llefarent air Duw yn hy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma'r adeilad lle roedden nhw'n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw'n cael eu llenwi eto â'r Ysbryd Glân, ac roedden nhw'n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddynt weddo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll 'r Ysbryd Gln, a llefarasant air Duw yn hy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yn yr hwn yr oeddynt wedi ymgynull, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.