Acts 4:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ lliaws yr ei oedd yn credy, yt oeddd o vn galon, ac un enait: ac ny ddyvot yr vn o hanwynt am ddim oll a veðei, ei vod yn eiddaw ehun, amyn bot pop peth yn gyffredin ganthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i liaws y rhai a gredasant yr oedd un galon ac enaid; ac nid oedd hyd yn oed un a ddywedai fod dim o’i dda yn eiddo ef ei hun, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r lliaws o’r rhai a gredodd oedd o un galon ac enaid, ac ni ddywedai undyn fod dim o’i feddiannau yn eiddo iddo, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a'r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!.” Roedden nhw'n rhannu popeth gyda'i gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r lliaws o'r rhai a gredasant oeddynt o un galon ac enaid: ac nid oedd hyd y nod un a ddywedai fod dim o'i feddianau yn eiddo iddo ei hun; eithr yr oedd pob peth yn gyffredin ganddynt.