Acts 4:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt ei gosot gwydd-yn‐gwydd ac wynt, y gofynesont, Trwy pa allu, n ai ym‐pa Enw y gwnaetho‐chwi hynn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu gosod hwy yn y canol, gofynasant. Trwy ba awdurdod neu ym mha enw y gwnaethoch chwi y peth hwn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi eu gosod hwynt yn y canol holent, “Ym mha nerth neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, "Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a holasant, Yn mha allu neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn.