Acts 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can bot in holi ni heddyw o bleit gweithret da avvaetham i ddyn e gwan, ys ef pa wedd, ydd iachawyt ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pennaethiaid y bobl, ac henuriaid, os ni a holir heddyw am y weithred dda i’r dyn claf, trwy bwy yr iachawyd ef, bydded hysbys i chwi oll,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
os ŷm ni heddiw ar brawf am gymwynas i ddyn claf, pa fodd y mae hwn yn iach,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i'r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iachu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
os holir ni heddyw am weithred dda i ddyn eiddil, trwy ba foddion y mae hwn wedi ei iachau;