Acts 5:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val hyn drwy ddvvy law yr Apostolon y dangosit llawer o arwyddion a’ thra rryveddodae ym‐plith y popul (ac ydd oeddent oll yn vnvryt ym‐porth Selef. Yr Epistol ar ddydd S. Bartholomeus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrwy ddwylaw yr apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau ym mhlith y bobl, ïe, llawer; ac yr oeddynt, o un fryd, i gyd yn nghyntor Shalomon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrwy ddwylo’r apostolion gwneid arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; ac yr oeddynt i gyd yn unfryd yng Ngholofnfa Solomon;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrwy ddwylo'r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl — gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent bawb yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddent oll o un fryd yn Nghyntedd Solomon.