Acts 5:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o’r lleill ny veiddiai nep ymwascy ac wynt: er hyny yr popul y mawrygei h wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond o’r lleill nid oedd neb a feiddiai ymlynu wrthynt; eithr eu mawrhau hwynt a wnaeth y bobl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond o’r lleill ni feiddiai neb ymlynu wrthynt, eithr mawrygai’r bobl hwynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni feiddiai neb o'r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ni feiddiai neb o'r gweddill lynu wrthynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau,