Acts 5:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yd pan ðugent y cleifion i’r heolyð, aei gesot mewn gwelyae a’ glwthae, y ny bei pe gwascot Petr, wrth ddyvot heibio, wascodi rryw vn o hanwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyd onid i’r llydanfeydd y dygent allan y cleifion ac y’u gosodent ar welyau a gorweddfëydd, fel wrth ddyfod o Petr y byddai, beth bynnag, i’w gysgod gysgodi ar ryw un o honynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, dygent y cleifion hyd yn oed allan i’r heolydd a’u gosod ar welyau a matrasau, fel y caffai pe na bai ond cysgod Pedr, wrth fynd heibio, ddisgyn ar rywun ohonynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yr oeddent hyd yn oed yn dod 'r cleifion allan i'r heolydd, a'u gosod ar welyau a matresi, fel pan fyddai Pedr yn mynd heibio y ci ei gysgod o leiaf ddisgyn ar ambell un ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hyd oni ddygent y cleifion hyd y nod i'r prif‐heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel, pan ddelai Petr heibio, y byddai o leiaf i'w gysgod gysgodi rhyw un o honynt.