Acts 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddaeth hefeit lliaws allan or dinasoedd o y amgylch i Caerusalem, gan ddwyn, ’r ei afiach, a’ rei a gythrwblit gan yspryton aflan, ac y iacheit wy oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth ynghyd hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Ierwshalem, yn dwyn cleifion a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymgynullai hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Caersalem, gan ddwyn cleifion a rhai a flinid gan ysbrydion aflan, ac iacheid hwynt oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o'r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai'r dyrfa'n ymgynnull hefyd o'r trefi o amgylch Jerwsalem, gan ddod chleifion a rhai oedd yn cael eu blino gan ysbrydion aflan; ac yr oeddent yn cael eu hiachu bob un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A deuai ynghyd hefyd y lliaws o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a'r rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.