Acts 5:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cyvodes yr Archoffeiriat, a’r oll ’rei oedd gyd ac ef (yr hwn yt oedd sect y Tsadduceit) ac yð oeddynt yn llawn bocsach,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Tsadwceaid), llanwyd hwy o genfigen,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd yr archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef, sef sect y Sadwceaid, wedi eu llanw ag eiddigedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond llanwyd yr archoffeiriad ag eiddigedd, a'r holl rai hynny oedd gydag ef, sef plaid y Sadwceaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Arch‐offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Saduceaid), ac a lanwyd o genfigen,