Acts 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wy the pan glywsant hynn yma, a aethant y mewn ir Templ yn vorae ac a ddyscesont y vverin. A’r Archoffeiriait a ddaeth, a’r ei oedd gyd ac ef, ac a alwesont y Cygcor yn‐cyt, ac oll Henafieit plant yr Israel, ac a dd anvonesont rei ir carchar i beri y dwyn wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, aethant i mewn, tua’r wawr, i’r deml, ac yr oeddynt yn dysgu. Ac wedi dyfod o’r archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Cynghor a holl senedd meibion Israel, a danfonasant i’r carchardy i’w dwyn hwynt ger bron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi clywed, aethant tua thoriad dydd i mewn i’r Deml a dechreuasant ddysgu. Wedi i’r archoffeiriad ddyfod, a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef holl gyngor meibion Israel, ac anfonasant i’r carchardy i’w cyrchu hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i'r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a'r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar i'w dwyn hwy gerbron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin — sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel — dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt glywed hyn, aethant ar doriad dydd i mewn i'r deml, a dechreusant ddysgu. Wedi i'r archoffeiriad a'r rhai oedd gydag ef gyrraedd, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef senedd gyflawn cenedl Israel, ac anfonasant i'r carchar i gyrchu'r apostolion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glywsant hyn, hwy a aethant gyda'r wawr i'r Deml, ac a ddysgasant. Eithr yr Archoffeiriad wedi cyrhaedd, a'r rhai oedd gydag ef, a alwasant ynghyd y Sanhedrin, a holl Senedd plant Israel, ac a ddanfonasant i'r carchardy, i'w dwyn hwy ger bron.