Acts 5:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Diau gahel o hanam ni y carchar dy yn gaead yn dra diescaelus, a’r ceidweit yn sefyll allā, rac y drysae: eithyr gwedy i ni ei agori, ny chawsom ni neb y mewn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dychwelyd, mynegasant, gan ddywedyd, Y carchar a gawsom wedi ei gau gyda phob sicrwydd, a’r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau; ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Cawsom y carchardy wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a’r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath sicraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi ei gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cawsom y carchar wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a'r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb oddi mewn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni a gawsom y carchar wedi ei gau gyda phob dyogelwch, a'r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau: eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.