Acts 5:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gwedy ir archoffeiriat, ac llywodraethwr y Tē p l, a’r Archoffeiriait glywed y pethae hynn, petrusaw am danwynt a wnaethant, pa beth a vyddei o hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan glywsant y geiriau hyn, cadben y deml a’r archoffeiriaid a ddyrysid yn eu cylch, pa beth a ddeuai o hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd pennaeth y Deml a’r archoffeiriaid y geiriau yma, yr oeddynt mewn penbleth amdanynt beth a ddeuai o hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r archoffeiriad, a blaenor y deml, a'r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl “Beth nesa!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywodd prif swyddog gwarchodlu'r deml, a'r prif offeiriaid, y geiriau hyn, yr oeddent mewn penbleth yn eu cylch, beth a allai hyn ei olygu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu cadben y Deml a'r Arch‐offeiriaid y geiriau hyn yr oeddent mewn dyryswch yn eu cylch, i ba beth y deuai hyn.