Acts 5:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd aeth vn, ac a venagawdd yð‐wynt, gan ddywedyt, Nachaf, y gwyr y ddodesoch yn‐carc h ar ynt yn sefyll yn y Templ, ac yn dyscy yr popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o ryw un, mynegodd iddynt, Wele, y gwŷr a ddodasoch yn y carchar, y maent yn y deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond daeth rhywun a mynegodd iddynt, “Dyma’r gwŷr, a ddodasoch yn y carchar, yn y Deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae'r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! — mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daeth rhywun a dweud wrthynt, "Y mae'r dynion a roesoch yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu'r bobl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fe ddaeth rhyw un, ac a fynegodd iddynt, Wele, y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar, y maent yn y Deml, yn sefyll ac yn dysgu y bobl.