Acts 5:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth y llywyawdraethwr ef a’r swyddogion, ac y duc hwy yn ddysarhaet, (can ys yð oedd arnwynt ofn y popul, rac y llapyðit wy)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, wedi myned ymaith o gadben y deml ynghyda’r gweinidogion, daeth â hwynt, nid gyda thrais, canys ofnent y bobl, rhag eu llabyddio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna aeth y pennaeth gyda’r gweision, a’u dwyn hwynt, — heb drais, canys ofnent y bobl rhag eu llabyddio;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y blaenor, gyda'r swyddogion, a aeth, ac a'u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth y swyddog gyda'i filwyr i'w nl, ond heb drais, am eu bod yn ofni cael eu llabyddio gan y bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y Cadben, gyda'r is‐swyddogion, a aeth ymaith, ac a'u dyg hwy, nid gyda thrais, canys yr oeddent yn ofni y bobl, rhag eu llabyddio.