Acts 5:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ðywedyt, A ny orchymynesam ni yn gaeth ychwy, na ddyscech nep yn yr Enw hwnn? ac wele ys darvu ychwy lanwy Caerusalem aeich dysc, a’ chwi vynnech ddwyn gwaet y dyn hwnn arnam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gofynodd yr archoffeiriad iddynt, gan ddywedyd, A gorchymyn y gorchymynasom i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn: ac wele, llanwasoch Ierwshalem â’ch dysgad, a mynnech ddwyn arnom waed y dyn hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi i beidio â dysgu am yr enw hwn, a dyma chwi wedi llanw Caersalem â’ch dysgeidiaeth, a cheisiwch ddwyn arnom ni waed y dyn hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Rhoesom orchymyn pendant i chwi beidio dysgu yn yr enw hwn, a dyma chwi wedi llenwi Jerwsalem 'ch dysgeidiaeth, a'ch bwriad yw rhoi'r bai arnom ni am dywallt gwaed y dyn hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gorchymynasom i chwi yn bendant na ddysgech yn yr enw hwn: ac wele, yr ydych wedi llanw Jerusalem â'ch dysgeidiaeth, ac yr ydych yn amcanu dwyn gwaed y dyn hwn arnom ni.