Acts 5:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Petr, Ananias, paam y cyflawnodd Satan dy galon, yd pan yw yt y ddywedyt celwydd wrth yr Yspryt glan, a’ chadw ymaith gyfran, o werth y perchenogaeth?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedodd Pedr, “Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon i dwyllo’r Ysbryd Glân a chadw peth o’r tâl am y tir?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai Pedr, "Ananias, sut y bu i Satan lenwi dy galon i ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Gln, a chadw'n l beth o'r tl am y tir?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir?