Acts 5:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dew ein tadae a gyvodes Iesu y vyny yr hwn a laddeso‐chwi, ac a grocessoch ar brenn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Duw ein tadau a gyfododd i fynu yr Iesu, yr Hwn, chwi a’i lladdasoch gan Ei grogi ar bren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyfododd Duw ein tadau Iesu, a lofruddiasoch chwi gan ei grogi ar bren;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch â'ch dwylaw eich hunain, gan ei grogi ar bren.