Acts 5:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwnn a dderchavodd Dew a ei ddehaulaw, i vot yn Dywysawc ac yn Iachawdur, y roddy ediveirwch ir Israel, a’ maddeuant pechatae,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hwn a ddyrchafodd Duw â’i law ddehau yn flaenor ac iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae Duw wedi ei osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi eu maddau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.