Acts 5:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cyvodes y vyny dd yn y Cygcor neb Pharisai, a’ ei enw Gama‐liel, athro or Ddeddyf, vn parchedic gan yr oll popul, ac a ’orchymynawdd beri enciliaw ar Apostolon allan ychydig yn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi o ryw un yn y Cynghor, Pharishead a’i enw Gamaliel, dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, archodd osod y dynion allan am ychydig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyfododd rhyw Pharisead yn y Sanhedrin a’i enw Gamaliel, athro’r Gyfraith, gŵr parchus gan yr holl bobl, ac archodd roi’r dynion allan am ychydig,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhyw Pharisead a'i enw Gamaliel, doctor o'r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru'r apostolion allan dros ennyd fechan;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato). Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe gododd yn y Sanhedrin ryw Pharisead o'r enw Gamaliel, athro'r Gyfraith, gu373?r a berchid gan yr holl bobl, ac archodd anfon y dynion allan am ychydig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr safodd i fyny yn y Sanhedrin ryw Pharisead, o'r enw Gamaliel, Dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd osod y dynion allan am enyd fechan;