Acts 5:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys o vlaen y dyddiae hynn, y cyf odes vn Theudas, gan ymffrostio, ac attaw yr ymwascawdd o rivedi gwyr, yn‐cylch petwar‐cant, ac ef a las: ac wynt y oll oedd yn coelio iddaw, a ’oyscarwyt, ac a ddiddimiwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas, gan ddywedyd ei fod efe yn rhyw un, â’r hwn yr ymgysylltodd rhifedi o ddynion, ynghylch pedwar cant; ac efe a laddwyd, a’r holl rai cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a wasgarwyd ac a wnaed yn ddiddym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cyn y dyddiau hyn cyfododd Thewdas, gan ddywedyd ei fod yn rhywun, ac fe lynodd nifer o ddynion wrtho, ynghylch pedwar cant; a lladdwyd ef, a gwasgarwyd pawb a’i pleidiai, ac aethant yn ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a cafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dro'n l cododd Theudas, gan honni ei fod yn rhywun, ac ymunodd nifer o ddynion ag ef, ynghylch pedwar cant. Lladdwyd ef, a chwalwyd pawb oedd yn ei ganlyn, ac aethant yn ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un, â'r hwn yr ymunodd rhifedi o wyr, tua phedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a aethant i'r dim.