Acts 5:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ol hwn y y codes Iudas o’r Galelaia, yn‐dyddiae yr teyrnget, ac ef a dro s es bopul liosawc yn ei ol: ef e hevyt a gyfergollwyt, a’ chynniuer ac a gydsynniawdd ac ef, a hylltranwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ar ol hwn y cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r rhestriad, ac a dynnodd bobl ar ei ol; ac am dano ef y darfu; a’r holl rai, cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a chwalwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ei ôl ef cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r cyfrifiad, a thynnodd bobl ymaith ar ei ôl; darfu amdano yntau hefyd, a chwalwyd pawb a’i pleidiai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau'r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a cafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hwn, cododd Jwdas y Galilead yn nyddiau'r cofrestru, a thynnodd bobl i'w ganlyn. Ond darfu amdano yntau hefyd, a gwasgarwyd pawb o'i ganlynwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar ol hyn y cyfododd Judas y Galilead yn nyddiau y Cofrestriad, ac a drodd bobl ar ei ol: yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a chwalwyd.