Acts 5:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon y dywedaf wrthych, Enciliwch y wrth y dynion hynn, a’ gedwch yddwynt lonydd: cans ad yw yr cygcor, hyn ai weithred hon o ddynion, ei goyscerir:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr awr hon dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, canys os o ddynion y mae’r cynghor hwn neu’r gwaith hwn, diddymmir ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr meddaf wrthych, peidiwch â’r dynion hyn a gedwch iddynt; oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn neu’r gwaith hwn, fe’i dymchwelir;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae'r cyngor hwn, neu'r weithred hon, fe a ddiddymir;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn yr achos hwn, 'rwy'n dweud wrthych, ymogelwch rhag y dynion hyn; gadewch lonydd iddynt. Oherwydd os o ddynion y mae'r bwriad hwn neu'r weithred hon, fe'i dymchwelir;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os yw y cynghor hwn neu y weithred hon o ddynion, dymchwelir hwynt: