Acts 5:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra ytoedd yn aros ith veddiant, anid tydi bioedd? ac yn ol ei werthy, anid yt oedd yn dy veddiant? paam y gesodeist y peth hyn yn dy galon? Ny ddywedeist gelwyð wrth ddynion, amyn wrth Ddew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O adael iddo, onid gennyt ti yr arhosai? Ac o’i werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl? Pa fodd y gosodaist dy fryd ar y weithred yma? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd yn aros heb ei werthu, onid yn dy feddiant di yr oedd yn aros? Ac wedi ei werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl ar yr arian? Sut y rhoddaist le yn dy feddwl i'r fath weithred? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd wrth ddynion ond wrth Dduw.