Acts 5:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chytuno ac ef a wnaethāt, a’ galw yr Apostolon: a’ gwedy yðwynt beri ei fustaw, y gorchymynesont na lauarent yn enw yr Iesu, a’ ei gellwng ymaith a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ufuddhasant iddo; ac wedi galw yr apostolion attynt, ar ol eu curo hwynt, gorchymynasant iddynt beidio â llefaru yn enw’r Iesu, a gollyngasant hwynt yn rhyddion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi galw’r apostolion a’u fflangellu, gorchmynasant na lefarent am enw’r Iesu, a’u gollwng ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw'r apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe'u perswadiwyd ganddo. Galwasant yr apostolion atynt, ac wedi eu fflangellu a gorchymyn iddynt beidio llefaru yn enw Iesu, gollyngasant hwy'n rhydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a wrandawsant arno; ac wedi galw yr Apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchymynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.