Acts 5:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyn teu aethant ymaith o geyr bron y Cygcor, gan ym lawenhay can ys ei teilyngy y gael ei amperchi dros y Enw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwy, yn wir, gan hyny, a aethant, oddi ger bron y Cynghor, yn llawenychu am eu cyfrif yn deilwng o’u hammerchu dros yr Enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, aent i ffwrdd yn llawen o ŵydd y Sanhedrin am eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr enw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant hwythau ymaith o u373?ydd y Sanhedrin, yn llawen am iddynt gael eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr Enw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwythau yn wir gan hyny a aethant o wydd y Sanhedrin, gan lawenychu am gael eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch ar ran yr Enw.