Acts 5:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chyvody or gwyr ieuainc, a’ ei gymeryd i vyny, a’ ei ðwyn allan aei glaðy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi o’r gwŷr ieuaingc, cyd-rwymasant ef; ac wedi ei ddwyn ef allan, claddasant ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd y gwŷr ifainc a’i amdoi, a dygasant ef allan a’i gladdu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chododd y dynion ifainc, a rhoi amdo amdano, a mynd ag ef allan a'i gladdu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gwyr ieuengaf a gyfodasant ac a'i hamdoasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant ef.