Acts 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddeðyw megis ar ben yspait teirawr gwedy, bot yð y wreic ef ðyvot y mewn, eb wybot y peth a wnaethoeddit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu yspaid oddeutu tair awr, ac ei wraig, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu ysbaid o ryw deirawr, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu megis ysbaid tair awr, a'i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth rhyw deirawr heibio, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod beth oedd wedi digwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu megys yspaid tair awr, a'i wraig, heb wybod yr hyn oedd wedi dygwydd, a ddaeth i mewn.