Acts 5:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Petr wrthei, Paam y darvu y chwy gytuno yn eich plith i tempto Yspryt yr Arglwydd? nachaf, draet yr ei a gladdesont dy ’wr ynt wrth y drws, ac vvy ath cyhebryngant ti y allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hi a ddywedodd, Ië, er cymmaint. A Petr a ddywedodd wrthi, Paham y cyttunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy ŵr, wrth y drws y maent, a dygant allan dithau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe Pedr wrthi, “Paham y cydsyniwyd gennych i brofi Ysbryd yr Arglwydd? Dyma draed y rhai a gladdodd dy ŵr wrth y drws, a dygant dithau allan.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Pedr wrthi, "Sut y bu ichwi gytuno i roi prawf ar Ysbryd yr Arglwydd? Dyma wrth y drws su373?n traed y rhai a fu'n claddu dy u373?r, ac fe nt thithau allan hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy wr di ydynt wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.