Acts 6:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC yn y dyddiae hynny, val y tyvei niveiri’r’discipulon, e godes murmur gan y Groegieit yn erbyn yr Hebrewyr, can ys tremegy y gwrageð‐gweðwon hwy yn y gwenidogaeth beunyddawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y dyddiau hyn, a’r disgyblion yn amlhau, y bu grwgnach gan yr Iwddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, o herwydd diystyru eu gwragedd gweddwon yn y ministriad beunyddiol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Helenistiaid yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gweddwon hwynt yn y ddarpariaeth feunyddiol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y dyddiau hynny, a'r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y dyddiau hyn, a'r dysgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iuddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, oblegyd fod eu gwragedd gweddwon yn cael eu hesgeuluso yn y gweinyddiad dyddiol.