Acts 6:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gesodesont wyr, y ddywedent, Ni y clywsam ef yn llavaru cabl‐airiae yn erbyn Mo y sen, a’ Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y danfonasant i mewn ddynion yn dywedyd, Clywsom ef yn llefaru ymadroddion cablaidd yn erbyn Mosheh a Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna annos gwŷr a wnaethant i ddywedyd, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus am Foesen a Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna annog dynion a wnaethant i ddweud, "Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yn ddirgelaidd y cymhellasant ddynion, y rhai a ddywedasant, Nyni ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd pethau cableddus mewn perthynas i Moses a Duw.