Acts 6:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val hynn y cyffroesant vvy y plwyf a’r Henafieit, a’r Gwyr‐llen: ac a ruthrasont iddaw, ac a ymaflasont ynto, ac ei duc e sant at a Cycor,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chynhyrfasant y bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, cipiasant ef, a dygasant ef i’r Cynghor,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chynhyrfu’r bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a wnaethant, a dyfod arno a’i gipio a’i ddwyn i’r Sanhedrin;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gynyrfasant y bobl, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a'i cipiasant ef, ac a'i dygasant i'r gynghorfa;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hefyd, hwy a gynhyrfasant y bobl a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, a chan ddyfod arno, hwy a'i cipiasant ef gyda hwynt, ac a'i dygasant i'r Sanhedrin;