Acts 6:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys clywsam ef yn dywedyt, y byð ir Iesu hwn o Nazaret ddestryw io y lle hwn, ac ysmuto ’r cynneddfeu, y roddes Moysen y ny ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys clywsom ef yn dywedyd y bydd i’r Iesu y Natsaread hwn ddistrywio y lle hwn, a newid y defodau a draddododd Mosheh i ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys clywsom ef yn dywedyd y dymchwelai Iesu’r Nasaread yma y Lle hwn ac y newidiai’r defodau a draddododd Moesen i ni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd clywsom ef yn dweud y bydd Iesu'r Nasaread yma yn distrywio'r lle hwn, ac yn newid y defodau a draddododd Moses i ni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd yr ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu, y Nazaread hwn, y lle hwn, ac y cyfnewidiai y defodau a draddododd Moses i ni.