Acts 6:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oedd yr oll r’ei y eisteddent yn y Cycgor, yn edrych yn graph arnaw, y gwelent ei wynep val petei wynep Angel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan graffu arno gan bawb oedd yn eistedd yn y Cynghor, gwelent ei wyneb fel pe bai yn wyneb angel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel petai wyneb angel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel wyneb angel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin, gan edrych yn graff arno, a welent ei wyneb ef fel gwyneb angel.